Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | astudiaethau brodorol, gwyddorau'r amgylchedd |
Mae gwybodaeth ecolegol draddodiadol (a adnabyddir yn rhyngwladol fel Traditional ecological knowledge; TEK) yn disgrifio gwybodaeth gynhenid, frodorol a thraddodiadol o adnoddau lleol. Fel maes astudio yn anthropoleg Gogledd America, mae TEK yn cyfeirio at “gorff cronnus o wybodaeth, ac at gred ac ymarfer, sydd hefyd yn esblygu ac yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genedlaeth trwy ganeuon, straeon a chredoau traddodiadol. Mae'n ymwneud â pherthynas pobol â'u hamgylchedd."[1] Ar y cyfan, felly, defnyddir y term yng nghyd-destun Gogledd America, ac weithiau Awstralia ayb.
Nid yw gwybodaeth frodorol yn gysyniad cyffredinol ymhlith rhai cymdeithasau. Mae'r term yn cyfeirio at system o wybodaeth, ac at draddodiadau neu arferion sy'n dibynnu'n helaeth ar "le".[2] Defnyddir gwybodaeth o'r fath mewn rheoli adnoddau naturiol yn lle data amgylcheddol sylfaenol mewn achosion lle nad oes llawer o ddata gwyddonol wedi'i gofnodi.[3] Gall hefyd ategu dulliau gwyddonol y Gorllewin o reoli ecolegol mewn modd gwerthfawr iawn.
Mae asiantaethau llywodraeth nad ydynt yn llwythau, fel EPA yr Unol Daleithiau, wedi sefydlu rhaglenni integreiddio gyda rhai llywodraethau llwythol er mwyn ymgorffori TEK o fewn cynlluniau amgylcheddol a thracio effaith newid hinsawdd.[4][5]
Defnyddir gwybodaeth draddodiadol i gynnal yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer goroesi.[6] Er y gall TEK ei hun, a'r cymunedau sy'n gysylltiedig â'r traddodiad llafar, gael eu bygwth yng nghyd-destun newid cyflym yn yr hinsawdd neu ddiraddiad amgylcheddol,[7] mae TEK yn profi'n hanfodol ar gyfer deall effeithiau'r newidiadau hynny o fewn yr ecosystem.
Gall TEK hefyd gyfeirio at wybodaeth amgylcheddol draddodiadol sy'n tanlinellu'r gwahanol gydrannau a rhyngweithiadau'r amgylchedd.[8]